Mae'r Faner Las yn eco-label unigryw a ddyfernir i oddeutu 3100 o draethau a marinas mewn 35 o wledydd ar draws Ewrop, De Affrica, Seland Newydd, Canada a'r Caribî.
Mae'r Faner Las yn gweithio tuag at ddatblygiad cynaliadwy mewn traethau/marinas drwy feini prawf llym sy'n ymwneud ag ansawdd dw^r, addysg a gwybodaeth amgylcheddol, rheolaeth amgylcheddol a diogelwch a gwasanaethau eraill.
Mae Ymgyrch y Faner Las yn cynnwys addysg a gwybodaeth amgylcheddol i'r cyhoedd, i rai sy'n gwneud penderfyniadau ac i weithredwyr twristiaeth.
Yn naturiol, bydd Marina Abertawe yn cynnal ei safonau uchel amgylcheddol a bydd yn ailgynnig am y Faner Las yn 2010.
Sefydlwyd cynllun Gwobr yr Angor Aur i wella safonau'r cyfleusterau sydd ar gael i'r holl berchnogion cychod. Gall Gweithredwyr Marinas sy'n aelodau o'r Gymdeithas Porthladdoedd Iotiau fod yn rhan o'r cynllun ar gyfer asesu.
Mae'r wobr yn amrywio o dri i bum Angor Aur. Mae unrhyw wobr yn arwydd o farina o safon, tra bod nifer yr angorau'n nodi lefel y cyfleusterau sydd ar gael. Mae'r cynllun yn un gwbl gwirfoddol ac fe'i lluniwyd i wneud y diwydiant yn flaenllaw ym maes cychod ac annog gwell safonau.
Aseswyd Marina Abertawe o dan gynllun Gwobr yr Angor Aur yn 2008. Mae'n bleser gennym ddweud y dyfarnwyd pum Angor Aur i ni, o ganlyniad i'n holl ymdrechion i ddarparu cyfleuster o'r radd flaenaf i chi sy'n cynnig gwerth am arian.