|
|
||
Croeso i Farina AbertaweMae Marina Abertawe yng nghanol Ardal Forol ailddatblygiedig ac arobryn y ddinas, ac fe'i hamgylchynir gan fwytai, siopau a busnesau morol.Ni oedd y Marina arfordirol cyntaf i agor ym Môr Hafren, a ni yw un o'r ychydig marinas yn y DU i ennill gwobr 5 Angor Aur y Gymdeithas Porthladdoedd Iotiau. Rydym yn ffinio â chanol y ddinas ar un ochr a'n traeth tywod ein hunain ar yr ochr arall. Rydym yn gweithio'n galed iawn i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i chi am brisiau sy'n cynnig gwerth am arian, ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i ddarparu cyfleuster i chi sydd heb ei ail o ran lleoliad ac awyrgylch. Mae ein gwefan yn cynnwys y gorau o'r hyn y mae gan Farina Abertawe i'w gynnig ac yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer hwylio llwyddiannus.
Yn adran Defnyddwyr y Marina, gallwch wneud cais am angorfa ar-lein, cael dyfynbris yn syth, a dod o hyd i wybodaeth bwysig am y llifddorau. Dyma'r lle hefyd i ddod o hyd i fapiau a chynlluniau o'r Marina a chanol dinas Abertawe, manylion am y cyfleusterau yn yr ardal a gwybodaeth am y tywydd a'r llanw. Gallwch hefyd weld lluniau byw o'r marina ar ein gwe-gamera. Mae Adran y Deiliaid Angorfeydd yn cynnwys popeth mae ei angen arnoch i reoli eich angorfa, o wneud cais am wasanaeth neu adleoli, i newid eich manylion a thalu anfoneb ar-lein. Os ydych am ymweld â'n Marina gyda'ch llong, yna mae'r wybodaeth angenrheidiol, gan gynnwys cadw angorfa ymwelydd a chyfrifo'r gost, ar gael yn Ardal yr Ymwelwyr. Hefyd, mae adran Gwybodaeth Gyffredinol sy'n cynnwys cyfleusterau a gwasanaethau ar-lein, gwybodaeth leol a Gwobrau Marina Abertawe.
Dymunwn dymor hapus a phleserus i chi ym Marina Abertawe.
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Ionawr 18 2010