Roedd y cyfuniad o isadeiledd y doc newtdd a diwydiant puro lleol Abertawe yn ogystal â’r agosrwydd at y meysydd glo yn golygu mai Abertawe oedd y lleoliad rhesymegol ar gyfer mwyndoddi copor ym Mhrydian Oes Fictoria.
O ganlyniad, gyda chyfanswm buddsoddiad o £170,000, dyblwyd tunelled y porthladd rhwng 1860 a 1870 a gwelwyd newid sylweddol yn yr hen gyrchfan Sioraidd ffasiynol.
Newidiwyd rhodfeydd a gerddi hamdden yn rheilffyrdd dyrchafedig ac ystordai, daeth tai tref yn swyddfeydd, yn dafarnau ac yn dai llety. O fewn cyfnod byr daeth Abertawe I gael ei hadnabod ar draws y byd diwydiannol Fictoraidd fel ‘Copperopolis’.