Roedd copor rhatach a fewnforiwyd, yn enwedig o'r Americau, a phrinder amrywiaeth diwydiannol ym Mhrydain, I gyd wedi cyfrannu at ddirywiad y porthladd. Caeodd Doc y Gogledd ym 1928 ac fe'I dilynwyd gan Ddoc y De ym 1969. Yna cafodd yr holl ardal a adnabyddir bellach yn Ardal y Môr ei phrynu am bris rhad gan Gyngor y Ddinas. Ar y dechrau ystyriwyd yr ardal fel man addas ar gyfer adeiladu ffordd osgoi newydd a fyddai wedi cymryd yr holl draffig sydd bellach yn teithtio ar hyd Heol Ystumllwynarth; bydda efyd wedi gofyn am bont newydd i groesi'r Tawe. |
Er hynny, yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth eol yn 1974, cafodd y polisi defnydd tir ei ailasesu gan yn Adran Gynllunio newydd a chafodd hadau Ardal y Môr eu hau.