Marina'r Cychod Hwylio Gan ystyried ymlaen llaw y byddai angen gwasanaethu'r rhain ac yn unol â'r athroniaeth defnydd-cymysg, adeiladodd hen Gyngor y Ddinas 5 uned diwydiant ysgafn ar Gei'r Farchnad Bysgod ym 1983. Mae'r rhain yn darparu gwasanathau cefnogi I'r gymuned hwylio. Ceir mynediad I'r marina o'r afon trwy Forglawdd loc (lle I 25 o gychod hwylio) a loc mewnol llai sy'n caniatáu mynediad I'r Marina ei hun.
Ers ei agor yn 1982 mae'r Marina wedi croesawu cychod o ledled y byd.
Mae lle I 365 o angorfeydd wrth ochr pontynau gyda chyfleusterau trydan a dwr. Maint mwyaf cwch y gellir ei angori yw 100 troedfedd o hud x 27 troedfedd o led x 14 troedfeddo ddyfnder.
Lleolir Gweinyddiaeth y Marina a'r Stordy Cychod ger llifddorau basn y Tawe ac yno fe geir toiledau a chawodydd I ddefnyddwyr angorfeydd a golchdy. Ceir iard storio cychod a sied atgyweirio tu ôl I'r adeilad hwn.
Rhodfeydd Cyhoeddus Perodd Morglawdd yr Afon Tawe (a gwblhawyd ym 1992) I'r afon lanw droi'n llyn hirfain. Arweiniodd hyn at uwchraddio ardal yr afon gan arwain at adfer hen lanfeydd adfeiliedig a chreu llwybrau cyhoeddus I gerddwyr a beicwyr. |
Mae gwelliannau o'r fath nid yn unig yn ychwanegu at apêl gweledol yr afon, maent hefyd yn gwneud tir Afon Tawe hyd at waith Addis, efallai y gellir ei defnyddio yn y dyfodol ym maes hamdden gan gynnig canwio a hwylio cychod hamdden bach.
Glan y Môr Mae'r lefel isaf yn ffurfio sblasfur, tra bo'r lefel uchaf yn ffurfio rhodfa a mur cynhaliol I'r promenâd newydd. Cynhwysid newidiadau mewn lefel a chyfeiriad y cynllun, yn ogystal â rampiau I ganiatáu mynediad I bobl mewn cadeiriau olwyn. ar ochr y môr I'r mur cynhaliol hwn arysgrifennir enwau'r llongau hynny oedd wedi'u cofrestru yn Abertawe dros 100 mlynedd yn ôl. |
Gelwir y brif fynedfa I'r traeth yn 'Borth y Môr' ac fe'I dynodir gan ddau biler cerrig Portland sy'n ochri'n gyfesur â dau bafiliwn. Ar y lefel uchaf yn y fan hon ceir dwy sedd 'Porth y Môr', sy'n darparu lle I eistedd ac sy'n gweithredu fel arwyddbyst persaernïol yn dynodi mynediad I'r traeth.
Morglawdd Afon Tawe Crybwyllwyd y syniad gyntaf ym 1974 ac fe'I hailarchwiliwyd ym 1978, ond oherwydd adnoddau prin a blaenoriaethau eraill fe'I cadwyd oddi ar yr agenda tan yn ddiweddar yn tr 1980'au. Dyfarnwyd cytundeb ar gyfer y Morglawdd am £17.5m ym mis lonawr 1989 ac roedd yn gymwys I dderbyn grant o £6.5m oddi wrth y Gymuned Ewropeaidd. |
Wedi'I gwblhau ym mis Gorffennaf 1992, mae nawr yn cadw dwr tua'r hanner llanw yn yr afon, gan ffurfio llyn hirfain mewndirol sydd yn taro'r llygad ar unwaith wrth fynediad y 'briffordd' I Ganol y Ddinas. Mae gan yr Afon Tawe bellach, sydd wedi rhannu dwyrain a gorllewin Abertawe gyhyd, y potensial I uno'r ddwy hanner trwy ddatblygu'n gyfleuster handden I'r ddwy ohonynt.
Bydd gwelliannau i lannau'r afon ac adfer parhol tir diffaith yn helpu I hybu buddsoddiad newydd gerllaw, yn enwedig hen ardal y dociau o gwmpas aber yr afon.