|
|
||
CyfleusterauMoesau ac arfer yn y Marina Gofynnir i gwsmeriaid glymu eu hwylraffau i ffwrdd o'r hwylbren i osgoi sw^n diangen yn yr amgylchedd cymysg hwn. Peidiwch â phwmpio dw^r twll sbydu neu ddifwynwyr i mewn i'r marina Gwerthfawrogir eich cymorth â'r materion hyn gan y rheolwyr a pherchnogion cychod eraill.Sylwer bod cyfyngiad cyflymder o 4 not a dylid goruchwylio plant ar bob adeg er diogelwch. Parcio Ceir Gall deiliaid angorfeydd ac ymwelwyr barcio ym maes parcio talu ac arddangos Northside. Hefyd, mae meysydd parcio ger gatiau'r troedleoedd. Bydd parcio arhosiad hir ar gael yn ein iard gychod drwy gydol misoedd yr haf. Dangoswch eich sticer trwydded parcio, sydd ar gael o'r dderbynfa. Atgoffir perchnogion i ddiogelu eu cerbydau a symud popeth gwerthfawr pan na fydd unrhyw un yn y cerbyd. Iard Gychod Mae teclyn codi morol symudol 20 tunnell ar gael gennym.Mae cyfleuster craen hefyd ar gael ar gyfer hwylbrennau etc. Mae busnesau amrywiol yn yr iard sy'n atgyweirio corff llong, GRP, pren, gwaith peirianyddol a thrydanol. Cynigir storfeydd am ddim ar y lan i ddeiliaid angorfeydd blynyddol am gyfnod cyfyngedig (os bydd lle). Sbwriel Mae troliau ar gael o'r cwrt sbwriel ar ben pob troedle. Dychwelwch eich troli ar gyfer y cwsmer nesaf. Dylid rhoi sbwriel domestig mewn bagiau wedi'u selio yn y sgip a ddarperir. Ailgylchu Yn ein cyrtiau sbwriel ac ar bob pontw^n, gallwch ailgylchu Caniau, Gwydr, Papur/cylchgronau, Olew, Batris, Pren. Ffonau Mae ffonau argyfwng ar gael yn adeiladau Loc Tawe a Loc y Marina. Ceir ffôn talu cyhoeddus ger gât troedle'r ochr ogleddol yn rhan 1. Dw^r Gadewch i bibelli dw^r redeg am 30 eiliad cyn llenwi tanciau o'r pontynau.Ailweindiwch y pibelli dw^r a pheidiwch â gadael pen y bibell yn y dw^r gan fod hyn yn aflan. Diesel a Nwy Ceir pympiau diesel ar naill ochr Loc y Marina a'r llall; mae poteli diesel a nwy ar gael o 7.00am tan hanner awr cyn i'r swyddfa gau. Nid oes petrol ar gael yn y Marina ond mae garej masnachol gerllaw. Golchi dillad Mae'r golchdy yn nerbynfa'r Marina, ac mae ei oriau agor fel y dderbynfa. Rhaid i chi ddod â'ch powdwr golchi eich hun.Gweler yr arwydd am daliadau cyfredol. Cyflenwadau Trydan Diogelir yr holl gyflenwadau trydan gan dorwyr cylchedau bychain 16A a thorwyr cylchedau cerrynt gweddillol 30mA. Mae mannau cysylltu â thrydan hefyd ar gael yn yr iard gychod. Rheolir y rhan fwyaf o gyflenwadau trydan gan system fesurydd gyfrifiadurol talu wrth adael. Gellir cael credyd yn swyddfa'r Marina neu dros y ffôn gan ddefnyddio cerdyn credyd/debyd. Mae taflen gyfarwyddiadau ar gyfer y system ar gael yn swyddfa'r Marina. Gweler ein rhestr brisiau am daliadau cyfredol. Ni ellir gwarantu cyflenwad cyson o ganlyniad i natur y system ac yn sgîl y dyfeisiau diogelwch sydd ar bob cyflenwad. Toiledau a Chawodydd Gellir defnyddio'r cyfleusterau hyn 24 awr y dydd, drwy ddefnyddio allwedd diogeledd pont?n y Marina. Maent mewn tri lleoliad:-
Ni ddylid defnyddio toiled llong tra yn y marina.
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Ionawr 18 2010