|| ||

Marina Abertawe

Website URL : http://www.swanseamarina.org.uk/index.cfm?articleid=4594
||

Gweithredu'r Loc

Gellir cael mynediad i Farina Abertawe drwy Loc y Marina gyda mynediad o'r môr hefyd drwy Loc Tawe. Mae gwybodaeth am oriau gweithredu, mynediad a gweithdrefnau'r loc ar gael isod.

Oriau Gweithredu'r Loc

Yn ystod yr wythnos

0700-1900 GMT

Yn ystod yr wythnos

0700-2200 BST

Sadwrn/Sul

0700-2200 BST & GMT


Mynediad i Lociau Llanw

Mae pob mynediad o'r môr i'r Marina trwy Loc Bared Tawe yn ystod yr oriau a gyhoeddwyd. Bydd system giwio ar waith yn ystod cyfnodau prysur.

Ni fydd llongau nad ydynt yn cysylltu â'r Locfeistr neu'n anwybyddu ei (ch)gyfarwyddyd ef/hi yn cael blaenoriaeth dros draffig arall. Er mwyn diogelwch pob perchennog llong, mae'n hollbwysig eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau'r Locfeistr bob amser.

Mae'n rhaid i longau sy'n gadael loc drosglwyddo i sianel VHF y loc nesaf wrth nesáu a defnyddio'r weithdrefn briodol uchod.


Argaeledd Lociau

Y Marina a'r Bont Droi - arwydd galw: 'Swansea Marina' Sianel 80

Loc Bared Tawe - arwydd galw: 'Tawe Lock' Sianel 18

Mae'n hanfodol bod pob perchennog llong sydd am fynd trwy'r lociau neu'r bont droi yn gweithredu radio VHF.


Mae'n rhaid i longau alw 'Swansea Marina' ar sianel 80 cyn gadael eu lle i ofyn am wybodaeth am y loc ac mae'n rhaid iddynt barhau i wrando ar sianel 80 tan fod eu taith drwy'r bont neu'r loc wedi'i chwblhau.

Pan fydd angen i chi ddefnyddio Loc Bared Tawe mae'n rhaid i chi alw 'Tawe Lock' i ofyn am wybodaeth a pharhau i wrando ar sianel 18 tan fod y daith drwy'r loc wedi'i chwblhau.  Peidiwch â mynd i mewn i'r lociau oni bai i chi dderbyn cyfarwyddyd.


Nodiadau Pwysig

Codi dogfennau
© 2010 Marina Abertawe
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Thursday September 10 2009