Polisi canslo/ ad-dalu
- Os byddwch yn canslo’ch trefniad 60 niwrnod neu fwy cyn eich dyddiad cyrraedd a drefnwyd yna byddwn yn cynnig ad-daliad llawn i chi.
- Os byddwch yn canslo’ch trefniad 60 – 30 niwrnod cyn eich dyddiad cyrraedd a drefnwyd, byddwn yn cynnig ad-daliad o 50% NEU byddwn yn cynnig dyddiad cyrraedd arall o fewn 6 mis i ddyddiad gwreiddiol eich trefniad, yn amodol ar argaeledd.
- Os byddwch yn canslo’ch trefniad 29 – 8 niwrnod cyn eich dyddiad cyrraedd a drefnwyd, ni chynigir ad-daliad ond byddwn yn cynnig dyddiad cyrraedd arall o fewn 6 mis i’ch dyddiad archebu gwreiddiol, yn amodol ar argaeledd.
- Os byddwch yn canslo’ch trefniad 7 niwrnod neu lai cyn eich dyddiad cyrraedd yna ni chynigir ad-daliad na opsiwn i aildrefnu dyddiad arall.
Os oes rhaid i ni newid neu ganslo’ch trefniad
Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod eich ymweliad yn brofiad pleserus, ond ar adegau prin efallai y bydd angen i ni newid neu ganslo’ch trefniad oherwydd amgylchiadau eithriadol. Os na allwn anrhydeddu eich trefniad mwyach, byddwn naill ai’n cynnig ad-daliad llawn i chi NEU ddyddiad cyrraedd arall o fewn 6 mis i ddyddiad eich trefniad gwreiddiol, yn amodol ar argaeledd.
Yswiriant
Rhaid i bob cartref modur, carafán a cherbyd fod wedi’u hyswirio’n llawn. Rhaid i gopi o’ch polisi yswiriant fod ar gael i ni ei weld ar gais.
Colled / difrod
Ni fydd Cyngor Abertawe yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golled, difrod neu ladrad wrth ddefnyddio’r Parc Carafanau Teithio. Rydym yn argymell yn gryf bod larymau cerbydau ar waith a bod eitemau personol yn cael eu cloi i ffwrdd ac allan o’r golwg.
Teledu cylch cyfyng
Er budd diogelwch personol ac atal troseddu, gosodwyd camerâu teledu cylch cyfyng a chaiff delweddau o fewn y Parc Carafanau Teithio eu recordio. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y system, y weithdrefn gwyno a sut i gael gafael ar y delweddau yn www.abertawe.gov.uk/teleducylchcyfyng
Sŵn
Rhaid cadw’r lefel sŵn mor isel â phosib ar ôl 10pm. Ymchwilir i gwynion a bydd yn rhaid i aelodau nad ydynt yn cadw at y rheol adael a chaiff eu haelodaeth ei diddymu.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Os bydd unrhyw westeion yn achosi problemau neu anghyfleustra i eraill, rydym yn cadw’r hawl i ofyn iddynt adael y Parc Carafanau Teithio heb ad-daliad. Rydym hefyd yn cadw’r hawl i wrthod trefniadau am unrhyw reswm o gwbl.
Diffoddydd tân
Rhaid i bob cartref modur a charafán fod â diffoddydd tân addas. Anogir gwesteion i ddarllen hysbysiadau gweithredu tân ac i ymgyfarwyddo â lleoliadau offer diffodd tân wrth gyrraedd.
Barbeciws
Rhaid defnyddio barbeciw yn yr ardal ddynodedig. Rhaid i chi sicrhau bod barbeciws sydd wedi’u defnyddio’n cael eu gwaredu’n ddiogel yn y bin a ddarperir.
Ardaloedd dim ysmygu
Gwaherddir ysmygu o fewn 5 metr i giât gerddwyr y Parc Carafanau Teithio oherwydd bod tanc storio petrol a phwmp petrol gerllaw. Gwaherddir ysmygu hefyd yn y blociau cawod a’r toiledau cemegol.
Plant
Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch cadw chi a’ch rhai bach yn ddiogel, ond mae diogelwch eich plant yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i chi bob amser. Sylwer, mae cerbydau’n symud o amgylch y cilfachau parcio ac mae’r gât i gerddwyr yn agos at ymyl y dŵr.
Anifeiliaid anwes
Nid ydym yn derbyn cŵn a restrir o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus. Mae’r rhain yn cynnwys daeargwn pydew, Dogo Argentino, Fila Brasileiro a Tosa Japan. Rhaid cadw cŵn eraill ar dennyn a rhaid i oedolyn cyfrifol fod yn gyfrifol am y ci. Os oes gennych gi sy’n swnllyd neu’n ymddwyn yn wael, efallai y byddwn yn gofyn i chi ei symud o’r Parc Carafanau Teithio. Rhaid i faw cŵn gael ei lanhau ar unwaith gan y person sy’n gyfrifol am y ci. Byddwn yn ystyried derbyn mathau eraill o anifeiliaid anwes ond rhaid i ni gytuno ar hyn cyn gwneud trefniadau.
Carafanau
Mae’r Parc Carafanau Teithio wedi’i sefydlu’n bennaf ar gyfer cartrefi modur ac nid ydym yn cynnig storio carafanau.
Cerbydau ychwanegol
Heblaw am gartrefi modur, rhaid i bob cerbyd arall sy’n gysylltiedig â’r trefniad barcio y tu allan i’r Parc Carafanau Teithio.