Swansea Marina

Vibrant City by the Sea

  • Facebook
  • Flickr
  • Twitter
  • Weather
  • Quotations
    • 20% discounted annual berths
    • 28 day visitor bundle
    • Berth holder benefits
    • Contact us
  • Tides and locks
  • Berths
    • Pontoon map
    • Handbook
    • Pay an invoice
    • Report a fault
    • Contact us
  • Navigation
    • Pilotage
    • Low water river
    • Lock operation
    • Traffic lights
    • Contact us
  • Visitors
    • Book a berth
    • 28 day visitor bundle
    • Handbook
    • Contact us
  • Latest news
You are here: Home / Preifatrwydd a Chwcis

Preifatrwydd a Chwcis

Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn cynnwys defnyddio gwybodaeth bersonol y mae Marina Abertawe yn ei chasglu pan fyddwch yn mynd i  www.swanseamarina.org.uk.

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis, fel bron pob gwefan arall, i’n helpu ni i roi’r profiad gorau posib i chi. Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur neu ffôn symudol pan fyddwch yn pori gwefannau

Mae ein cwcis yn ein helpu i:

  • Wneud i’n gwefan weithio yn ôl y disgwyl
  • Cofio’ch gosodiadau pan fyddwch yn defnyddio’r wefan a rhwng yr adegau hynny
  • Gwella cyflymder/diogelwch y wefan
  • Caniatáu i chi rannu tudalennau gyda rhwydweithiau cymdeithasol fel Facebook
  • Gwella’n gwefan yn barhaus i chi
  • Sicrhau bod ein marchnata’n fwy effeithlon (a’n helpu yn y pen draw i gynnig y gwasanaeth rydym yn ei roi am y pris rydym yn ei godi)

Nid ydym yn defnyddio cwcis i:

  • Gasglu unrhyw wybodaeth bersonol (heb eich caniatâd chi)
  • Casglu unrhyw wybodaeth sensitif (heb eich caniatâd chi)
  • Trosglwyddo data i rwydweithiau hysbysebu
  • Trosglwyddo data personol i unrhyw drydydd parti
  • Talu comisiynau gwerthiannau

Gallwch ddysgu mwy am yr holl gwcis rydym yn eu defnyddio isod.

Rhoi caniatâd i ni ddefnyddio cwcis

Os yw’r gosodiadau ar y meddalwedd rydych chi’n ei ddefnyddio i weld y wefan hon (eich porwr) wedi’u haddasu i dderbyn cwcis, mae hyn a’ch defnydd parhaus o’r wefan yn golygu i ni eich bod yn hapus i ni wneud hyn. Os hoffech chi gael gwared ar y cwcis neu os nad ydych am ddefnyddio cwcis o’n gwefan ni, gallwch ddysgu sut i wneud hyn isod. Fodd bynnag, bydd gwneud hyn yn golygu na fydd ein gwefan yn gweithio fel y byddech yn ei ddisgwyl.

Mwy am ein Cwcis

Cwcis Swyddogaethau’r Wefan

Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i’n gwefan weithio gan gynnwys:

  • Cofio’ch gosodiadau chwilio

Nid oes modd atal y cwcis rhag cael eu gosod heblaw am beidio â defnyddio’n gwefan.

Swyddogaethau trydydd parti

Mae ein gwefan, fel y rhan fwyaf o wefannau, yn cynnwys swyddogaethau a ddarperir gan drydydd partïon. Enghraifft gyffredin yw fideo YouTube wedi’i fewnblannu.  Mae ein gwefan yn cynnwys y canlynol sy’n defnyddio cwcis:

  • Google –  Polisi Preifatrwydd

Bydd analluogi’r cwcis hyn yn debygol o dorri’r swyddogaethau a gynigir gan y trydydd partïon hyn.

Cwcis Gwefannau Cymdeithasol

Fel y gallwch “Hoffi” neu rannu’n cynnwys yn hawdd ar wefannau megis Facebook a Twitter, rydym wedi cynnwys botymau rhannu ar ein gwefan.

Gosodir cwcis gan:

  • Facebook – Polisi Preifatrwydd

Bydd y goblygiadau preifatrwydd ar hyn yn amrywio o rwydwaith cymdeithasol i rwydwaith cymdeithasol a byddant yn ddibynnol ar y gosodiadau preifatrwydd rydych wedi’u dewis ar y rhwydweithiau hyn.

Cwcis Ystadegau Ymwelwyr Dienw

Defnyddiwn y cwcis i lunio ystadegau ymwelwyr megis faint o bobl sydd wedi ymweld â’n gwefan, pa fath o dechnoleg maent yn ei defnyddio (e.e. Mac neu Windows sy’n helpu i nodi pan nad yw’n gwefan yn gweithio fel y dylai ar gyfer technolegau arbennig), faint o amser maen nhw’n ei dreulio ar y wefan, ar ba dudalen maen nhw’n edrych etc. Mae hyn yn ein helpu i wella’n gwefan yn barhaus. Mae’r rhaglenni “dadansoddol” hyn hefyd yn dweud wrthym, yn ddienw, sut mae pobl wedi cyrraedd y wefan hon (e.e. trwy beiriant chwilio) ac a ydynt wedi bod yma o’r blaen, gan ein helpu i wario mwy o arian ar ddatblygu’n gwasanaethau i chi yn lle gwario ar farchnata.

Defnyddiwn:

  • Google analytics

Analluogi Cwcis

Gallwch fel arfer analluogi cwcis drwy addasu gosodiadau’ch porwr i’w atal rhag derbyn cwcis (Dysgwch sut i wneud hyn yma.). Bydd gwneud hynny, fodd bynnag, yn debygol o gyfyngu ar ein swyddogaethau ni a chyfran fawr o wefannau’r byd am fod cwcis yn rhan safonol o’r rhan fwyaf o wefannau modern.

Efallai fod eich pryderon am gwcis yn ymwneud â’r hyn a elwir yn “ysbïwedd”. Yn hytrach nag analluogi cwcis yn eich porwr, efallai y byddwch yn darganfod fod meddalwedd gwrth-ysbïwedd yn cyflawni’r un nod drwy ddileu cwcis yr ystyrir eu bod yn ymledol yn awtomatig.
Dysgwch fwy am reoli cwcis gyda meddalwedd gwrth-ysbïwedd.

Daeth y testun gwybodaeth am gwcis ar y wefan hon o gynnwys a ddarparwyd gan Attacat Internet Marketing http://www.attacat.co.uk, asiantaeth farchnata yng Nghaeredin. Os oes angen gwybodaeth debyg arnoch ar gyfer eich gwefan eich hun, gallwch ddefnyddio’u  hofferyn archwilio cwcis am ddim.

Swansea Marina, Lockside, Maritime Quarter, Swansea, SA1 1WG
Telephone : 01792 470310 Email : swanmar@swansea.gov.uk
Out of Hours Security : 01792 646440
VHF Channel 80
Waypoint position : 51° 36′.40N 03° 55′.60W

Marina Abertawe, Ochr y Loc, Ardal Forol, Abertawe, SA1 1WG
Rhif ffôn : 01792 470310 Ebost : swanmar@swansea.gov.uk
Diogelwch y Tu Allan i Oriau : 01792 646440
VHF Channel 80
Waypoint position : 51° 36′.40N 03° 55′.60W

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Marina | Privacy and cookies