Mae ein safle Parc Carafanau Teithio yng nghanol y Marina gyda mynediad hawdd i gyfleusterau’r marina, y traeth a chanol dinas Abertawe.
Mae holl gilfachau’r safle ar gael o fis Mai i fis Medi. Y tu allan i’r misoedd hyn bydd gennym lai o gilfachau. Gan mai ein blaenoriaeth yw perchnogion cychod, byddwn yn cau neu’n lleihau maint y safle pan fydd angen storio cychod.
Mae’r safle ar gael i gartrefi modur a faniau gwersylla. Uchafswm maint y gilfach yw 8 metr x 2.75 metr
Cost
Y tâl dros nos dyddiol yw £25.00 o ddydd Sul i ddydd Mawrth (adegau tawel). Codir tâl o £30.00 ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn ac yn ystod cyfnodau gwyliau (adegau brig).
Archebu
Gallwch drefnu i aros ar y safle hyd at 8 wythnos ymlaen llaw. Cysylltwch â ni i gael gwybod am argaeledd ac i gadw lle.
Gall cwsmeriaid gyrraedd o 1.00pm ar y diwrnod cyrraedd a rhaid iddynt adael erbyn 12.00pm ar y diwrnod ymadael.
Yn amodol ar argaeledd, gall cwsmeriaid dalu tâl ‘gadael yn hwyr’ o £10.00 sy’n caniatáu iddynt aros ar y safle tan 2.00pm. Cynhelir archwiliadau o’r safle, gwaith glanhau a chynnal a chadw rhwng 1.00pm a 2.00pm. Nid ydym yn caniatáu i gerbydau gyrraedd ar ôl 9.00pm
Pa ddiogelwch ydyn ni’n ei gynnig?
Er na allwn sicrhau diogelwch, byddwn yn cadw’r safle mor ddiogel â phosib. Mae teledu cylch cyfyng wedi’i osod wrth gatiau’r fynedfa. Mae’r holl gatiau mynediad yn cael eu rheoli gan gôd PIN sy’n cael ei anfon gyda’r cadarnhad o’r archeb. Bydd swyddogion patrôl symudol yn gwirio bod y gatiau wedi’u cloi yn ystod y nos.
Beth yw’r weithdrefn ar y diwrnod cyrraedd?
Wrth i chi gyrraedd byddwch wedi derbyn cadarnhad o’r trefniad sy’n dangos i chi ble i barcio. Defnyddiwch y côd PIN a ddarperir i agor y gatiau awtomatig a gyrrwch i’r gilfach ddynodedig. Mae cebl trydan yn aros i gael ei blygio’n uniongyrchol i’ch cartref modur. Nodir côd y Wi-Fi hefyd ar y cadarnhad o’r trefniad.
Ffoniwch ni ar 01792 470310 am ragor o wybodaeth ac i wneud trefniadau