Swansea Marina

Vibrant City by the Sea

  • Facebook
  • Flickr
  • Twitter
  • Weather
  • Quotations
    • 20% discounted annual berths
    • 28 day visitor bundle
    • Berth holder benefits
    • Contact us
  • Tides and locks
  • Berths
    • Pontoon map
    • Handbook
    • Pay an invoice
    • Report a fault
    • Contact us
  • Navigation
    • Pilotage
    • Low water river
    • Lock operation
    • Traffic lights
    • Contact us
  • Visitors
    • Book a berth
    • 28 day visitor bundle
    • Handbook
    • Contact us
  • Latest news
You are here: Home / Mordwyo / Gwybodaeth Lywio

Gwybodaeth Lywio

Ym Mae Abertawe, mae llifau llanwol yn llifo gwrthglocwedd  am 9.5 awr (Penllanw Abertawe -3.5 i +6) gyda cherrynt ar adegau oddi ar Ben y Mwmbwls. O Benllanw  -6 i -3 mae’r llif yn gwrthdroi, ac yn mynd tua’r gogledd, heibio i Ben y Mwmbwls tuag at Abertawe.

Cadwch tua’r môr o Mixon Shoal.  Pan fyddwch i’r gogledd o fwi It SCM Tiroedd Gwyrdd Mewnol y de-orllewin (SWIGG), Q (6) + LFI 15s cadwch i’r gorllewin o’r sianel a garthwyd a chadw’n glir o longau masnachol. Mae’n rhaid i iotiau ddefnyddio’u modur yn yr harbwr ac agosáu ar gyflymder nad yw’n fwy na 4 not.


Cyfeirbwynt:
(PIERHEADS)
51° 36. 43N,
003° 55. 67W
(WGS 84 Datum)

Siartiau:
AC 1161, 1165, 1179
Imray C59
Stanfords 14
OS 159
Explorer 164

Dociau Abertawe

Atgoffir holl ddefnyddwyr y marina ein bod yn rhannu’r fynedfa i’r afon gyda’r sianel fordwyo ar gyfer llongau masnachol sy’n dod i mewn i borthladd Abertawe a’i adael.

Mae’n bwysig iawn bod yr holl berchnogion cychod yn ufuddhau i’r rheolau a bennir gan yr awdurdodau ac yn ildio i longau masnachol ar bob adeg.

Mynd i mewn i’r porthladd a’i adael

Mae’n rhaid i’r holl longau pleser sy’n defnyddio’r porthladd lynu wrth y rheolau sy’n rheoli “Atal Gwrthdrawiadau ar y Môr”, yn enwedig wrth lywio o fewn y sianel a garthwyd i’r gogledd o’r bwi SWIGG (Tir Gwyrdd Mewnol y de Orllewin) i fynedfa’r harbwr.

Fe’ch cynghorir i agosáu at fynedfa’r harbwr yn y dyfroedd i’r gorllewin o’r sianel sydd wedi’i charthu (lle bo hynny’n ymarferol).

Mae’n rhaid rhoi digon o le ar bob adeg i longau mawr sy’n dod i mewn i’r harbwr neu’n ei adael.

Mae’n rhaid i bob llong bleser fod dan bŵer pan fydd ger yr harbwr a dylai adael dyfroedd a ddefnyddir gan longau masnachol cyn gynted â phosib.

Rheoliadau’r Porthladd

Tua’r môr, bydd llongau sy’n agosáu at yr harbwr yn gweld 9 golau signal wedi’u gosod mewn tair colofn o 3 golau. Mae golau canol y golofn orllewinol yn rheoli llongau pleser.

Pan fydd y golau’n goch, ni ddylai unrhyw long fynd ar yr afon a dylent aros i’r de-orllewin o’r morglawdd gorllewinol. Os nad ydych yn siŵr, galwch ddociau Abertawe ar sianel 14 VHF neu Loc Tawe ar sianel 18.

Pan ddaw goleuadau mynediad Loc Tawe i’r golwg, dylai llongau ddefnyddio’r radio ar Sianel 18 VHF i gysylltu â Meistr y Loc sydd ar ddyletswydd i gael gwybodaeth a chyfarwyddiadau er mwyn mynd i mewn i’r loc.Arwydd Galw “Loc Tawe”.

Swansea Marina, Lockside, Maritime Quarter, Swansea, SA1 1WG
Telephone : 01792 470310 Email : swanmar@swansea.gov.uk
Out of Hours Security : 01792 646440
VHF Channel 80
Waypoint position : 51° 36′.40N 03° 55′.60W

Marina Abertawe, Ochr y Loc, Ardal Forol, Abertawe, SA1 1WG
Rhif ffôn : 01792 470310 Ebost : swanmar@swansea.gov.uk
Diogelwch y Tu Allan i Oriau : 01792 646440
VHF Channel 80
Waypoint position : 51° 36′.40N 03° 55′.60W

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Marina | Privacy and cookies