Gellir mynd i mewn i Farina Abertawe drwy Loc y Marina, ac mae ffordd i mewn o’r môr hefyd drwy Loc Tawe. Mae gwybodaeth am oriau gweithredu, mynediad a gweithdrefnau’r loc ar gael isod.
Oriau Gweithredu’r Loc
Diwrnodau’r wythnos | 0700-1900 GMT |
Diwrnodau’r wythnos | 0700-2200 BST |
Dydd Sadwrn a dydd Sul | 0700-2200 BST & GMT |
Mynediad i Lociau Llanw
Mae’r holl fynediad o’r môr i’r marina drwy Loc Morglawdd Tawe yn ystod yr oriau a gyhoeddir. Yn ystod cyfnodau prysur yn y loc, gweithredir system giwio.
Ni roddir blaenoriaeth dros draffig eraill i longau nad ydynt yn cysylltu â meistr y loc ac nad ydynt yn ufuddhau i’w gyfarwyddiadau. Er budd perchennog pob llong, mae o’r pwys mwyaf i ufuddhau i gyfarwyddiadau meistr y loc ar bob adeg.
Mae’n rhaid i longau sy’n gadael y naill loc neu’r llall drosglwyddo i sianel VHF y loc nesaf wrth agosáu ato a defnyddio’r weithdrefn briodol uchod.
Argaeledd y Loc
Y Marina a’r Bont Droi – arwydd galw: ‘Marina Abertawe’ Sianel 80
Loc Morglawdd Tawe – arwydd galw: ‘Loc Tawe’ Sianel 18
Mae’n hanfodol bod yr holl berchnogion cychod sydd am fynd drwy’r lociau neu’r bont droi yn gweithredu radio VHF.
Mae’n rhaid i longau alw ‘Marina Abertawe’ ar sianel 80 cyn gadel eu hangorfeydd i ofyn am wybodaeth am y lociau a rhaid iddynt barhau i wrando ar Sianel 80 nes iddynt gwblhau’r daith drwy’r bont neu’r loc.
Pan fydd angen i chi ddefnyddio loc Morglawdd Tawe, mae’n rhaid i chi alw ‘Loc Tawe i ofyn am wybodaeth a pharhau i wrando ar Sianel 18 neu i chi gwblhau’r daith drwy’r loc. Peidiwch â mynd i mewn i’r loc nes i chi gael cyfarwyddyd i wneud hynny.
Nodiadau Pwysig – Gweithdrefn y Loc
- Y cyfle cyntaf i fynd â chwch allan drwy loc Tawe yw oddeutu 07.10. Y cyfle olaf i ddod â chwch i mewn drwy’r loc yw hanner awr cyn diwedd y diwrnod gwaith bob dydd. Dylai perchnogion cychod fod yn barod i adael eu hangorfa oddeutu chwarter i’r awr i ganiatáu digon o amser i gychod fynd i mewn i loc Tawe.
- Bydd unrhyw wyriad o’r uchod ar ddisgresiwn Meistr Loc Tawe sydd ar ddyletswydd a fydd yn rhoi sylw priodol i swm y traffig ac unrhyw amodau eraill sy’n bodoli.
- Mae gofyn i unrhyw longau nad ydynt yn dychwelyd ar yr un diwrnod hysbysu Meistr y Loc a Gwylwyr y Glannau. Ceir dau fwi cynnal i lawr yr afon o’r loc, a gellir eu defnyddio y tu allan i oriau’r loc. Mae angen gofal mawr ar adeg distyll y gwanwyn oherwydd perygl sychu.